Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 17(2)(c) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2018 Rhif (Cy. )
amaethyddiaeth, cymru
Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Effaith adran 14(1) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”) yw bod y Ddeddf i ddarfod ar 30 Gorffennaf 2018, oni bai bod gorchymyn yn cael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan adran 14(2) sy’n darparu bod y Ddeddf i barhau mewn effaith. Mae’r Gorchymyn hwn yn orchymyn o’r fath ac mae’n darparu bod y Ddeddf i barhau mewn effaith.
Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Gorchymyn hwn ar gael gan yr Adran Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 17(2)(c) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2018 Rhif (Cy. )
amaethyddiaeth, cymru
Gorchymyn Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018
Gwnaed ***
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 14(2) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014([1]), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 17(2)(c) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, gosodwyd drafft o’r Gorchymyn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Sector
Amaethyddol (Cymru) 2014 (Parhau i Gael Effaith) 2018.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 i barhau i gael effaith
2. Mae Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 i barhau mewn effaith er gwaethaf adran 14(1) o’r Ddeddf.
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad